Search
Close this search box.
Search
Close this search box.

Sefydliad y Coedwigwyr Siartredig

gwybodaeth | hygrededd | arbenigedd | cydnabyddiaeth fyd-eang

Pwy Ydym Ni

Sefydliad y Coedwigwyr Siartredig (ICF) yw’r corff Siartredig Brenhinol ar gyfer coedwigwyr a thyfwyr coed yn y DU.

Mae’n darparu gwasanaethau a chymorth i’w aelodau; arweiniad i weithwyr proffesiynol mewn sectorau eraill; gwybodaeth i’r cyhoedd; a chyngor addysgol a hyfforddiant i fyfyrwyr a gweithwyr coed proffesiynol sydd eisiau datblygu eu gyrfaoedd yn y diwydiant coedwigaeth a choedyddiaeth.

Mae’r ICF yn rheoleiddio’r safonau mynediad i goedwigaeth a choedyddiaeth, ac yn cynnig cymwysterau proffesiynol i hyrwyddo arbenigedd yn y proffesiynau rheoli coed a choetiroedd.

Mae ganddo oddeutu 1,700 o aelodau sy’n ymarfer coedwigaeth, coedyddiaeth a disgyblaethau cysylltiedig yn y sector preifat, llywodraeth ganolog a lleol, cynghorau ymchwil, a phrifysgolion a cholegau ledled Cymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a’r Alban.

Mae’r ICF yn gweithio i feithrin mwy o ymwybyddiaeth gyhoeddus a dealltwriaeth o’r proffesiynau coed er mwyn gwasanaethu amrywiaeth o ddiddordebau masnachol, hamdden, amgylcheddol a gwyddonol.

Ein Gwaith

Mae Sefydliad y Coedwigwyr Siartredig yn cyflwyno sylwadau’n rheolaidd mewn ymateb i ddogfennau ymgynghori ar amrywiaeth eang o faterion yn ymwneud â choedwigaeth a choedyddiaeth yng Nghymru. Gellir gweld yr holl ymatebion hyn yn Llyfrgell yr Adran i Aelodau [DOLEN]. Mae ein haelodau yn gwasanaethu ar nifer o baneli proffil uchel a grwpiau arbenigol, yn ogystal â chynnal cysylltiadau â sefydliadau’r llywodraeth a sefydliadau anllywodraethol mewn perthynas â materion rheoli coed. Mae gennym Grŵp Rhanbarthol gweithgar yng Nghymru sy’n cyfrannu at y gwaith hwn.

Aelodaeth

Cydnabyddir Aelodaeth Siartredig o’r ICF yn rhyngwladol fel arwydd o ragoriaeth. P’un a ydych chi’n fyfyriwr, yn ymarferydd profiadol, neu â diddordeb mewn rheoli a gwella coed a choetiroedd yn eu holl ffurfiau, mae’r ICF yn eich croesawu chi i ymuno.

Graddau

Aelodaeth Myfyriwr – y rheiny sy’n astudio’n llawn amser mewn addysg uwch.

Aelod Cyswllt – y rheiny sydd wedi cwblhau eu haddysg broffesiynol gychwynnol ac sydd eisiau gweithio tuag at statws Siartredig.

Aelod Proffesiynol – mae hyn yn cydnabod cymhwysedd technegol a phroffesiynol aelodau, ac yn rhoi statws Siartredig.

Cymrodoriaeth – dyfernir hyn i uwch aelodau’r ICF i gydnabod eu dawn, eu harbenigedd a’u cyfraniad arbennig at y proffesiwn.

Cefnogwr – mae hyn yn agored i unigolion sydd â diddordeb mewn coedwigaeth a choedyddiaeth, ac sy’n dymuno cefnogi’r ICF.

Buddion

  • Aelodaeth Ranbarthol – mynediad at rwydweithiau proffesiynol a chymdeithasol, digwyddiadau a seminarau lleol yng Nghymru.
  • Cynrychiolaeth – gallwch leisio’ch barn ynglŷn â sut mae’r Sefydliad yn cael ei redeg a chyfrannu at ymgynghoriadau, cyrff, paneli a grwpiau arbenigol rydym yn gwasanaethu arnynt yng Nghymru a’r DU.
  • Cyfeiriadur Ymgynghorwyr – gwnewch gais i gael eich cynnwys yng Nghyfeiriadur Ymgynghorwyr Siartredig yr ICF.
  • Chartered Forester – tanysgrifiad rhad ac am ddim i’r cylchgrawn Chartered Forester
  • E-newyddion – e-newyddion misol a anfonir yn uniongyrchol i’ch mewnflwch
  • Forestry – tanysgrifiad gostyngedig i’r cyhoeddiad ymchwil International Journal of Forestry
  • Gwasanaeth Recriwtio – gwasanaeth hysbysebu swyddi i aelodau
  • Cyhoeddiadau, gwasanaethau a chyngor – mynediad unigryw at yr Ardal i Aelodau ar-lein sy’n cynnwys amrywiaeth o wasanaethau, cyhoeddiadau a chyngor proffesiynol
  • Digwyddiadau – Cynadleddau, Teithiau Astudio a chyfarfodydd a seminarau Grŵp Rhanbarthol yr ICF
  • Datblygiad Proffesiynol Parhaus – cofnod DPP strwythuredig

Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn ag a ydych yn gymwys i ymuno â’r ICF ai peidio, neu’n ansicr ynglŷn â pha radd aelodaeth rydych yn gymwys i wneud cais amdani, cysylltwch â’r ysgrifennydd aelodaeth trwy anfon neges e-bost neu ffonio 0131 240 1425.

Hon yw’r unig adran o wefan yr ICF sydd yn Gymraeg; mae pob tudalen arall yn Saesneg, fel sy’n safonol.

Latest news